Mae mynd i’r afael â heriau cyflogaeth pobl ifanc yn bwysig ar gyfer iechyd da ar ôl y pandemig
Mae cyfres newydd o adroddiadau sy’n canolbwyntio ar effeithiau Coronafeirws ar gyflogaeth yng Nghymru, wedi’i chyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae pobl ifanc, a’r rhai mewn gwaith ansicr, wedi’u nodi fel rhai sy’n arbennig o agored i niwed o ran newidiadau cyflogaeth a achosir gan y pandemig, gyda llesiant meddyliol a thrafferthion wrth ddod o hyd i waith neu gadw gwaith wedi’u nodi fel pryderon mawr.
Mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn ymwybodol o’r cymorth sydd eisoes ar gael a sut i gael gafael arno, gan awgrymu mwy o angen i sefydliadau ymgysylltu â phobl ifanc ar lefel ddyfnach, er mwyn dod o hyd i atebion i’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran cael cyflogaeth dda a theg – sy’n hanfodol i iechyd a llesiant da pobl.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.