Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at risgiau iechyd brys o gam-drin, unigrwydd a thrafferthion ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd
Mae astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol John Moores Lerpwl wedi dangos sut mae cam-drin, trafferthion ariannol ac unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn ddiweddarach mewn bywyd yn cynyddu risgiau pobl o iechyd gwael.
Holodd yr astudiaeth dros fil o oedolion 60 oed a hŷn sy’n byw mewn aelwydydd ledled Cymru. Canfu’r arolwg oedd yn edrych ar brofiadau pobl ar ôl iddynt gyrraedd 60 oed:
- Bod 12.5 y cant o gyfranogwyr wedi dioddef camdriniaeth.
- Bod 19.0 y cant o gyfranogwyr wedi cael trafferthion ariannol.
- Bod 20.7 y cant o’r cyfranogwyr wedi teimlo’n unig neu’n ynysig yn gymdeithasol.
Roedd pobl a adroddodd am un o’r profiadau hyn hefyd yn fwy tebygol o adrodd am brofiadau niweidiol eraill, a oedd hefyd yn cynnwys teimlo dan bwysau oherwydd cyfrifoldebau gofalu a methu â chael mynediad at ofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Er enghraifft, nododd 42.6 y cant o’r rhai a oedd wedi dioddef camdriniaeth eu bod hefyd wedi teimlo’n unig neu’n ynysig yn gymdeithasol o’i gymharu â 17.6 y cant o’r rhai nad oeddent wedi dioddef camdriniaeth.
Mesurodd yr astudiaeth ddeg canlyniad iechyd gwaeth. Roedd pob un o’r canlynol – camdriniaeth, trafferthion ariannol, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol – yn cynyddu risgiau pobl o ran y rhan fwyaf o’r canlyniadau iechyd gwaeth hyn. Er enghraifft:
- Roedd y rhai a oedd wedi dioddef camdriniaeth fwy na dwywaith yn fwy tebygol i ysmygu tybaco na’r rhai nad oeddent, a thros bedair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael meddyliau hunanladdol neu wedi hunan-niweidio.
- Roedd y rhai a oedd wedi cael trafferthion ariannol dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael boddhad bywyd isel na’r rhai nad oeddent wedi cael trafferthion ariannol a phedair gwaith yn fwy tebygol o nodi hunan-esgeulustod.
- Roedd y rhai a oedd wedi teimlo’n unig neu’n ynysig yn gymdeithasol ddwywaith yn fwy tebygol na’r rhai nad oeddent wedi teimlo’n unig o raddio iechyd eu hunain yn wael neu wael iawn, a mwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o gael llesiant meddyliol isel.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.