Mae atal iechyd gwael yn rhoi gwell gwerth am arian i GIG Cymru AC yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Mae rhoi rhaglenni effeithiol ar waith i atal iechyd gwael yn cynnig gwerth gwych am arian. Gall mentrau atal megis addysg blynyddoedd cynnar, rhaglenni brechu, rhoi’r gorau i ysmygu a chymorth i ofalwyr ddarparu gwerth rhagorol am arian – gydag enillion cyfartalog o £14 am bob £1 a fuddsoddir ynddynt. Maent hefyd yn cadw pobl yn iachach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hefyd.

Mae hynny  yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n dweud ei bod hi’n bwysicach nag erioed i flaenoriaethu arian cyhoeddus i fesurau atal. Gallai helpu i wrthdroi’r dirywiad yn iechyd y genedl, mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau a galluogi pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod anghydraddoldebau iechyd yn costio £322 miliwn y flwyddyn i wasanaethau acíwt y GIG yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn digwydd pan fo canlyniadau iechyd pobl yn wahanol oherwydd pethau fel ble maent yn byw, incwm, neu grŵp ethnig. Mae hyn yn golygu bod pobl yn ardaloedd tlotaf Cymru yn byw ar gyfartaledd 17 mlynedd yn llai iach o fywyd o gymharu â phobl yn y lleoedd cyfoethocaf. Yn ogystal, mae’r data’n datgelu ystadegau brawychus eraill ynghylch anghydraddoldebau iechyd:

  • Yn 2022-2023, roedd tua chwarter (24.8 y cant) o blant 4-5 oed yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew. Mae plant sy’n byw yn ardaloedd mwyaf cyfoethog Cymru yn fwy tebygol o gael pwysau iach.
  • Mae pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig bron bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o achosion y gellir eu hosgoi (3.7 gwaith ar gyfer dynion a 3.8 gwaith ar gyfer menywod).

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig