Lansio cynllun iechyd menywod Cymru i gau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau

Mae’r cynllun iechyd menywod cyntaf i Gymru wedi’i lansio gan osod gweledigaeth 10 mlynedd o hyd i wella gwasanaethau gofal iechyd i fenywod.

Er bod menywod yn byw’n hirach na dynion, mae ymchwil yn dangos eu bod yn byw am lai o flynyddoedd heb anabledd, yn aros yn hirach am gymorth lleddfu poen ac mae nifer ohonynt yn dweud bod eu symptomau wedi’u diystyru.

Mae’r cynllun, sydd wedi’i greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, sy’n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, yn nodi sut y bydd sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn cau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod, gan sicrhau bod pobl yn gwrando arnynt a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu deall.

Yn seiliedig ar adborth a gafwyd gan oddeutu 4,000 o fenywod, mae’n cynnwys bron i 60 o gamau gweithredu ar draws wyth maes blaenoriaeth i wella gofal iechyd i fenywod drwy gydol eu hoes.

Yn rhan o’r cynllun, bydd cyllid gwerth £750,000 yn cael ei wario ar ymchwil i gyflyrau iechyd menywod a bydd hybiau iechyd menywod yn cael eu sefydlu ym mhob cwr o Gymru erbyn 2026.

Mae hefyd yn cynnwys yr ymrwymiad ‘gwneud i bob cyswllt gyfrif’ er mwyn annog meddygon i ofyn i fenywod am iechyd mislif a’r menopos yn rhan o apwyntiadau rheolaidd.

Mwy o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig