Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyflwyno asesiadau o’r effaith ar iechyd cyntaf o’u math yn y byd

Yn dilyn cyflwyno rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd y Senedd fis diwethaf, sy’n gorchymyn i rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mynd i chwarae rhan allweddol wrth yrru’r gwaith o roi’r rheoliadau ar waith.


Pasiwyd Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 gan y Senedd ar 19 Tachwedd. Maent yn golygu bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru roi ystyriaethau ynghylch iechyd, llesiant a thegwch wrth wraidd eu prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gymryd y cam hwn.


O fis Ebrill 2027 ymlaen, bydd angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru mor amrywiol ag awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, sefydliadau’r GIG, a sefydliadau diwylliannol a chwaraeon fel yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Chwaraeon Cymru, wneud Asesiad o’r Effaith ar Iechyd pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol.


Bydd Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth yrru’r gwaith o roi’r Rheoliadau ar waith, drwy ddarparu canllawiau, cyngor a chymorth i gyrff cyhoeddus wrth symud ymlaen.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig