Hwb gwerth £8 miliwn i brydau bwyd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru

Bydd y rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd ledled Cymru yn elwa ar fuddsoddiad amcan ychwanegol gwerth £8 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, gyda’r pris sy’n cael ei wario fesul pryd yn codi o £3.20 i £3.40.


Mae’r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda 57 miliwn o brydau wedi eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru ers 2022.


Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle wedi cadarnhau 20c ychwanegol y pryd, gan gynyddu’r gyfradd fesul uned a osodir gan Lywodraeth Cymru o £3.20 i £3.40. Mae hyn yn golygu bod Cymru yn darparu’r gyfradd uchaf i ysgolion cynradd a thimau arlwyo cynghorau yn y DU i ddarparu prydau maethlon am ddim i ddysgwyr.


Cymru hefyd yw’r unig wlad yn y DU i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd.

Mwy o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig