Hwb ariannol o £225.5m i gefnogi addysg yng Nghymru

Bydd y sector addysg yn elwa ar £225.5m o gyllid, sy’n golygu y bydd ysgolion, colegau a lleoliadau eraill yn cael cyllid i helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr ledled Cymru.

Bydd y cyllid yn cynnwys £114m o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2024 i 2025 a £111.5m a ddyrannwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2025 i 2026. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd arfaethedig o £253m (4.3%) i setliad Llywodraeth Leol yn 2025 i 2026.

Fel yr amlinellwyd yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025 i 2026 yr wythnos hon (10 Rhagfyr)disgwylir i addysg gael £83.5m o gyllid refeniw ychwanegol (4.9%) a £28m o gyllid cyfalaf (8.1%).

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r blaenoriaethau canlynol:

  • Cyllid i gefnogi rhaglenni cymorth cenedlaethol i wella’r addysgu ar gyfer llythrennedd a rhifedd.
  • Cyllid ychwanegol ar gyfer safonau ysgolion i gefnogi blaenoriaethau mewn ysgolion a lleoliadau drwy elfen Safonau Ysgolion Grant Addysg Awdurdodau Lleol.
  • Mwy o gyllid i gefnogi’r ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan gynnwys uwchsgilio’r gweithlu drwy ddysgu proffesiynol cenedlaethol a chymorth i ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16 arbenigol annibynnol.
  • Cyllid i gefnogi presenoldeb mewn ysgolion er mwyn galluogi pecyn o ymyriadau sy’n cynnwys ymgysylltu â theuluoedd a chefnogi dysgwyr i fynychu’r ysgol. Bydd hyn yn cynnwys Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd newydd a chyllid ar gyfer Ysgolion Bro; ochr yn ochr â chymorth ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi ac ymgysylltu.
  • Cyllid pellach ar gyfer Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf yn unol â’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
  • Cyllid ar gyfer Medr i gefnogi dysgu ôl-16, gan gynnwys mentrau iechyd meddwl a lles mewn colegau a phrifysgolion.
  • Cyllid i gefnogi ystadau ysgolion a cholegau drwy’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: 

“Mae’r Gyllideb Ddrafft wedi ymrwymo i ddarparu dyfodol mwy disglair i Gymru, ac mae addysg wrth wraidd y nod hwn. Mae’n darparu cyllid i sicrhau sgiliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac yn rhoi cyfle i bawb.

Ochr yn ochr â phecyn o gyllid a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Ddrafft, sy’n fuddsoddiad sylweddol yn ein dysgwyr a’n gweithlu, rwy’n falch o gadarnhau cyllid ychwanegol o £114m yn ystod y flwyddyn a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar draws y sector.”

Bydd y cyllid ychwanegol o £114m yn ystod y flwyddyn yn rhoi hwb i’r gweithgareddau canlynol:

  • Cymorth i ysgolion a lleoliadau drwy elfen Safonau Ysgolion Grant Addysg Awdurdodau Lleol i wella safonau mewn ysgolion.
  • Darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ledled Cymru i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.
  • Cymorth ar gyfer y rhaglen gyfalaf, drwy’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i’w ddefnyddio ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau.
  • Cyllid ar gyfer Medr i gefnogi addysg bellach ac uwch, gan gynnwys ymchwil, ehangu mynediad at addysg bellach ac uwch, a rheoli newid mewn prifysgolion. 
  • Bydd arian hefyd yn cael ei ddarparu i gefnogi’r cynnydd o 5.5% i gyflog athrawon, ac ar gyfer cymorth Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) ychwanegol mewn ysgolion.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig