Hwb ariannol o £1.5miliwn ar gyfer 25 o brosiectau i fynd i’r afael â thlodi plant
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £1.5miliwn i 25 o sefydliadau sy’n gweithio gyda theuluoedd mewn tlodi ar draws Cymru. Bydd y prosiectau hyn yn gwella sut mae gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd, gan ganolbwyntio ar atebion ymarferol i helpu i godi plant allan o dlodi a chreu gwell cyfleoedd ar gyfer eu dyfodol.
Bydd y cyllid, o’r Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau, yn cysylltu gwasanaethau yn well fel y gall teuluoedd ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt yn haws.
Bydd Gweithredu Cymunedol Abergele yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi eu heithrio o gyfleoedd. Mae eu rhaglen yn cynnig cymorth sgiliau gwaith a datblygiad personol, gan roi cyfle i’r bobl ifanc hyn adeiladu dyfodol gwell.
Ym Mhowys, bydd prosiect yn edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â heriau tlodi gwledig a datblygu atebion ymarferol wedi’u teilwra i’r cymunedau.
Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig gweithdai creadigol am ddim i bobl ifanc yn Nhorfaen a Blaenau Gwent.
Dywedodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson:
“Mae gan bob person ifanc yng Nghymru yr hawl i ffynnu drwy gyfleoedd diwylliannol ysbrydoledig, sy’n rhoi hwb i’w lles, eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd y grant hwn gan Lywodraeth Cymru yn dod â phartneriaid lleol a chenedlaethol at ei gilydd i gynnig profiadau creadigol i bobl ifanc yn Nhorfaen a Blaenau Gwent, ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o dlodi plant a’r mynediad isaf i’r celfyddydau yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwybod bod y celfyddydau’n gallu newid bywydau. Gall sbarduno creadigrwydd, meithrin hyder, gwella lles, ac agor cyfleoedd go iawn. Mae’r prosiect hwn yn cefnogi amcanion Strategaeth Tlodi Plant Cymru a bydd yn helpu i greu newid parhaol i bobl ifanc yn y cymunedau hyn.”
Rhwng 2022 a 2026, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £7biliwn mewn ymyriadau sy’n lleihau costau a gwneud y mwyaf o incwm teuluoedd a chadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru.
Mae’r cyllid grant hwn yn rhan o ymdrechion parhaus y Llywodraeth i helpu aelwydydd sy’n wynebu tlodi ledled Cymru yn 2025 i 2026.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd, ac mae mynd i’r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwalu’r rhwystrau y mae tlodi yn eu creu ac ehangu cyfleoedd i’n plant.
“Trwy fuddsoddi’n uniongyrchol mewn sefydliadau sy’n cefnogi teuluoedd mewn tlodi ledled Cymru, rydyn ni’n sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i atal tlodi a rhoi cefnogaeth ystyrlon i’r rhai sy’n wynebu’r heriau anoddaf.”
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.