Gwaith dadansoddi data newydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i atal gordewdra ymysg plant yng Nghymru
Mae gormod o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew cyn eu trydydd pen-blwydd. Fodd bynnag, gallai cyfuniad o ymyriadau cynnar ac amgylcheddau cefnogol helpu i newid hynny.
Roedd dadansoddiad newydd o ddata rheolaidd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn edrych ar y dylanwadau ar ennill pwysau’n gyflym yn ystod 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn a BMI y 4,044 o blant a anwyd yng Nghymru yn 2022. O’r sampl honno, roedd bron i 15 y cant o’r plant dros eu pwysau ac roedd bron i 12 y cant yn ordew erbyn iddynt fod yn 27 mis oed.
Dengys ymchwil fod ennill pwysau’n gyflym yn ystod babandod yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau, yn cynnwys arferion bwydo, cyflwyno bwydydd solet, patrymau cysgu, a’r amgylchedd ehangach. Yn yr astudiaeth hon, roedd y ffordd yr oedd babanod yn cael eu bwydo yn chwe mis oed yn un ffactor a oedd yn dylanwadu’n sylweddol ar a oeddynt wedi ennill pwysau’n gyflym, yn ogystal â phwysau geni isel a babanod a anwyd cyn amser. Roedd gan y babanod hynny a oedd yn cael eu bwydo â llaeth fformiwla yn unig bron ddwywaith y siawns o ennill pwysau’n gyflym o’u cymharu â’r rhai a oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn unig.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.