Gallai mabwysiadu cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru wella iechyd i bawb
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai cyflwyno cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru fod yn gatalydd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a llesiant i bawb.
Mae’r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol, math o nawdd cymdeithasol sydd â’r nod o ddarparu swm penodol o incwm rheolaidd i bawb, er enghraifft £500 y mis heb brawf modd, wedi bodoli ers canrifoedd ond heb gael ei weithredu’n llawn.
Mae’r adroddiad ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?‘ yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn trafod effeithiau posibl ar iechyd a llesiant. Mae hefyd yn edrych ar y dulliau gwahanol o gynllunio a gweithredu polisi yn rhyngwladol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.