Gall byw mewn cartref oer effeithio ar eich iechyd yn ôl adroddiad newydd
Gall tymheredd ein cartref effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod byw mewn cartref oerach (ar dymheredd is na 18°C) yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cyfres o argymhellion ar y drefn wresogi foddhaol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn argymell, er mwyn diogelu iechyd, y dylem gynhesu ein cartrefi (neu o leiaf ardaloedd byw a ddefnyddir yn gyffredin), i dymheredd cyfforddus nad yw’n is na 18°C. Gallai fod angen i gartrefi â phreswylwyr hŷn neu’r rhai â chyflyrau iechyd neu anableddau wresogi eu cartrefi i dymheredd uwch na 18°C.
Mae’r argymhellion yn seiliedig ar waith ar y cyd a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae’n cynnwys adolygiad o’r dystiolaeth ar gartrefi oer ac arolwg o gartrefi gyda dros ddwy fil o drigolion Cymru yn archwilio cynhesrwydd tai yn ystod y gaeaf.
Roedd gan wyth o bob deg o gyfranogwyr yr arolwg (79 y cant) thermostat ystafell sy’n gweithio neu reolydd tymheredd digidol yn eu cartref. O’r rhai a nododd dymheredd thermostat ystafell, dywedodd un o bob deg (10.7 y cant) fod eu thermostat wedi’i osod ar dymheredd islaw 18°C, sy’n arwydd o gartref oerach. Roedd y rhai a oedd yn rhentu eu cartrefi’n breifat ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn byw mewn cartref oerach na pherchnogion tai. Roedd unigolion a oedd yn byw mewn cartrefi oerach dros ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gyndyn o wahodd gwesteion i’w cartref oherwydd anawsterau i’w gadw’n gynnes o’i gymharu â rhai a oedd yn byw mewn cartrefi cynhesach.
Ymhlith y grwpiau a oedd yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn lleihau maint eu prydau bwyd neu’n hepgor prydau bwyd oherwydd cost gwresogi’r cartref, roedd: aelwydydd â phreswylydd anabl neu incwm isel, ac unigolion â chyflyrau iechyd, a oedd yn iau, yn byw ar eu pen eu hunain neu gydag o leiaf un plentyn, a’r rhai nad oedd yn berchen ar eu cartref.
Dywedodd naw o bob deg (89 y cant) eu bod yn teimlo cysur thermol (teimlo’n gyfforddus o gynnes) yn eu prif fan byw. O’r rhai a nododd anghysur thermol, dywedodd dros saith o bob deg (71 y cant) fod hyn oherwydd ei fod yn costio gormod i gadw’r gwres ymlaen.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn bwysig oherwydd eu bod yn dangos effaith costau gwresogi ar allu pobl i wresogi eu cartrefi’n ddigonol yn ystod y gaeaf.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.