Gadael yr UE yn gyfle ac yn risg i iechyd y cyhoedd wrth i gytundebau masnach newydd gael eu negodi
Am y tro cyntaf ers hanner canrif, mae’r DU nawr yn rhydd i negodi ei chytundebau masnach rhyngwladol ei hun gan ei bod wedi gadael yr UE.
Bydd gan delerau’r cytundebau masnach hyn y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru mewn sawl ffordd – o’r bwyd byddwn ni’n ei fwyta i’n gwasanaethau gofal iechyd, y farchnad swyddi a’r gallu i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol:
“Gall cytundebau masnach gael effeithiau pellgyrhaeddol ar iechyd y cyhoedd – ar benderfynyddion iechyd ac ar y gallu i lywodraethau wella iechyd y cyhoedd trwy bolisi newydd.
Nod y papur hwn yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yw helpu arbenigwyr polisi masnach i ddeall perthnasedd iechyd y cyhoedd i’w gwaith, a galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i adnabod lle y gallai cytundebau masnach effeithio ar eu hymdrechion i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd.
Bydd negodi cytundebau masnach newydd yn sicr yn dod â chyfleoedd i Gymru a gweddill y DU ond bydd angen i ni fod yn wyliadwrus o’r canlyniadau negyddol anfwriadol posibl i iechyd y cyhoedd hefyd.
Bydd gan bob un ohonom sy’n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru ran i’w chwarae wrth lywio telerau cytundebau a pholisi masnach newydd lle maent yn ymwneud â’n meysydd arbenigedd i sicrhau’r buddion mwyaf posibl i iechyd a llesiant. ”
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.