Dyfarnu dros £3 miliwn i helpu gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb
Mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi dros £1.8m mewn gwneud canolfannau hamdden yn fwy ynni effeithlon fel y gall gweithgareddau barhau i fod yn fforddiadwy i gymunedau eu mwynhau.
Dyfarnwyd £1.3m pellach i 13 phrosiect a fydd yn gwneud cyfleoedd i wneud chwaraeon, gan gynnwys athletau, pêl-fasged a chriced, yn fwy hygyrch a phleserus.
Cafodd sefydliadau fel awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu chwaraeon eu gwahodd i wneud cais am gyllid yn yr hydref ac fe wnaeth Chwaraeon Cymru flaenoriaethu prosiectau a fyddai’n gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy hygyrch i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.