Dechrau cyflwyno rhaglen Atal Diabetes Genedlaethol Cymru
Mae’r rhaglen genedlaethol, sy’n cynnig cymorth wedi’i dargedu i bobl sy’n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2, bellach yn cael ei chyflwyno yn y practisau meddygon teulu a fu’n ymwneud â cham cyntaf y rhaglen ledled y wlad.
Mae’r AWDPP yn golygu bod gweithwyr cymorth gofal iechyd ymroddedig, hyfforddedig gyda goruchwyliaeth gan ddeietegwyr, yn cyflwyno ymyriad byr i bobl sydd wedi cael prawf gwaed sy’n dangos eu bod yn wynebu risg uwch o ddiabetes math 2. Mae’r ymyriad yn helpu unigolion i ddeall eu lefel risg ac yn eu cynorthwyo i’w lleihau drwy newidiadau allweddol i’w deiet a lefel eu gweithgarwch corfforol.
Mae’r AWDPP yn cael ei chyflwyno fesul cam gyda gwerthusiad wedi’i ymgorffori, a fydd yn asesu canlyniadau’r rhaglen ac effeithiolrwydd yr ymyriad. Yn hanner cyntaf 2022, mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn dau glwstwr gofal iechyd sylfaenol ym mhob un o saith ardal bwrdd iechyd Cymru.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.