Cysylltiadau Gwell, Canlyniadau Gwell ar
gyfer Tlodi Plant
Pam mae gweithio gyda’n gilydd yn bwysig ar gyfer
teuluoedd sy’n byw mewn tlodi
Pam mae hyn yn bwysig?
Ar draws Cymru, mae tua 30% o blant yn byw mewn tlodi, ac mae llawer o deuluoedd yn wynebu system gymhleth pan fyddant yn ceisio dod o hyd i gymorth. Yn aml, mae’n rhaid i rieni ddelio â nifer o wasanaethau gwahanol nad ydyn nhw’n teimlo’n gysylltiedig.
Pan fydd gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd, mae plant a theuluoedd yn cael canlyniadau gwell. Sut allwn ni gefnogi cydweithio effeithiol i sicrhau bod y system yn gweithio i’r rhai sydd ei hangen?
Beth wnaethom ni?
Gofynnom i bobl sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau ddweud wrthym pa mor dda y mae partneriaid yn cydweithio i fynd i’r afael â thlodi plant. O’r hyn a ddysgom, fe wnaethom greu argymhellion i helpu dileu rhwystrau a’i gwneud hi’n haws i sefydliadau gydweithio’n effeithiol.
Beth oedd ein canfyddiadau?
Mae teuluoedd angen gwasanaethau sy’n siarad â’i gilydd,
yn hytrach na gweithio mewn seilos.
Mae angen cyllid sefydlog ac arweinyddiaeth gref ar
bartneriaethau er mwyn cynllunio ar gyfer yr hirdymor.
Rhaid i bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon fod yn rhan
o greu atebion ar y cyd.
Beth nesaf?
Byddwn yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i ddatblygu a chyflwyno cynllun gweithredu manwl i symud pethau ymlaen.
Beth allwch chi ei wneud?
Dechreuwch y sgwrs: defnyddiwch ‘nodweddion cydweithio effeithiol’ i arwain arfer da yn eich partneriaethau.
Rhannwch arfer da: tynnwch sylw at enghreifftiau lleol lle mae gweithio ar y cyd yn gwneud gwir wahaniaeth
Hyrwyddwch brofiad o lygad y ffynnon: gwnewch yn siŵr bod teuluoedd yn helpu wrth lunio penderfyniadau o’r cychwyn cyntaf.
Gwthiwch am newid yn y system: eiriolwch dros gyllid hirdymor, tystiolaeth a rennir, a chynllunio cydgysylltiedig.
Darllen Pellach ac Adnoddau
Asesiad o
anghenion
Hunanasesu
Adolygiad
llenyddiaeth
Enghreifftiau o
gydweithio
effeithiol
Cymorth arall
Mae gan bob sefydliad rôl i’w chwarae. Gall pob partneriaeth wneud yn well. Gyda’n gilydd, gallwn droi ymdrechion bratiog yn ddull unedig yn erbyn tlodi plant a rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru ffynnu.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected]