Cynllun gweithredu bioamrywiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu pwysigrwydd mannau gwyrdd wrth leihau anghydraddoldebau iechyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei ail gynllun gweithredu bioamrywiaeth sy’n amlinellu’r gwaith y bydd yn ei wneud fel rhan o’i ddyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bwysigrwydd bioamrywiaeth ar gyfer iechyd a llesiant a’r camau gweithredu y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cymryd i fod yn hyrwyddwr natur.
Mae’r cynllun yn dweud nad oes gan bobl yng Nghymru fynediad cyfartal at natur a mannau gwyrdd a bod gan y rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig y mynediad lleiaf. Mae sawl astudiaeth wedi tynnu sylw at y cysylltiad rhwng mynediad at fannau gwyrdd a chanlyniadau beichiogrwydd ac iechyd gwaeth i bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Gall sicrhau bod gan bobl mewn ardaloedd difreintiedig fwy o fynediad at fannau gwyrdd fod yn anodd sy’n cael ei anwybyddu ar gyfer mynd i’r afael ag annhegwch iechyd, gydag ymchwil yn dangos y gall cynnydd o 10 y cant yn unig o ran dod i gysylltiad â mannau gwyrdd mewn lleoliadau trefol leihau problemau iechyd a gwella llesiant.
Drwy ei raglenni a’i bartneriaethau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i wella mynediad at fannau gwyrdd, yn ogystal â hyrwyddo bioamrywiaeth a chadernid ecosystem drwy leihau ein hallyriadau carbon, ein gwastraff a’n heffaith ar yr amgylchedd.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.