Cymunedau gwledig yn wynebu cyfnod allweddol o newid oherwydd effeithiau’r ‘Her driphlyg’
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i’w llywio.
Mae’r ‘Her driphlyg’ yn effeithio ar gymunedau gwledig mewn llu o ffyrdd, yn ôl y papur, ac mae rhai ohonynt yr un fath ar gyfer cymunedau trefol, ond mae eraill yn fwy penodol i gymunedau gwledig fel oedran, argaeledd, ansawdd a fforddiadwyedd tai, trafnidiaeth a seilwaith teithio llesol. Mae gan gymunedau gwledig boblogaethau hŷn a lefelau uchel o fusnesau amaeth. Mae angen ystyried y ffactorau hyn yn ofalus wrth ddrafftio polisïau a chynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol er mwyn er mwyn lleihau annhegwch iechyd a llesiant.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.