Cymru yn treialu cynllun Incwm Sylfaenol
O 1 Gorffennaf 2022, caiff £1600 (cyn treth) ei gynnig bob mis i fwy na 500 o bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru am ddwy flynedd, i’w cefnogi wrth iddynt gymryd y cam tuag at fywyd fel oedolion. Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy’n ei lansio, a’r gobaith yw y bydd y peilot yn gosod y bobl ifanc hyn sy’n gadael gofal ar lwybr tuag at fywydau iach, hapus, llawn boddhad.
Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn y peilot hefyd yn cael cyngor a chefnogaeth fel unigolion i’w helpu i reoli eu cyllid a datblygu eu sgiliau ariannol. Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol o ran eu cefnogi drwy gydol y peilot. Bydd Voices from Care Cymru hefyd yn gweithio gyda’r bobl ifanc i roi cyngor iddynt ar faterion lles, addysg a chyflogaeth, ac i’w helpu i gynllunio eu dyfodol ar ôl y peilot.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.