Cymorth newydd i rieni ar Strep A wrth i GIG 111 Cymru gael llif o alwyr pryderus
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio offeryn gwirio symptomau newydd er mwyn helpu rhieni i nodi arwyddion Strep A. Y gobaith yw y bydd yn helpu rhieni i benderfynu pryd i drin eu plentyn gartref a phryd mae’n briodol gofyn am gyngor meddygol.
Mae’n dilyn cynnydd yn nifer y galwadau i GIG 111 Cymru y penwythnos diwethaf. Cafwyd dros 18 mil o alwadau – mwy na dwbl y galwadau a gafwyd ar yr un penwythnos y llynedd. Roedd cyfran sylweddol o’r rhain gan rieni plant 12 oed ac iau ac oddi wrth y rhai a oedd yn poeni am ddolur gwddf a phroblemau gyda’r gwddf.
Mae’r gwiriwr symptomau newydd ar ffurf goleuadau traffig sy’n dangos i rieni pryd y mae’n ddiogel trin plentyn gartref ac ar ba gam y dylent ystyried ffonio GIG 111 Cymru neu eu meddyg teulu. Y gobaith yw y bydd yn helpu rhieni i deimlo’n fwy hyderus ynghylch pryd y mae angen iddynt ofyn am gymorth meddygol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.