Cyfyngiadau newydd ar hyrwyddo bwyd afiach i fynd i’r afael â’r lefelau gordewdra sy’n codi yng Nghymru
Heddiw, bydd rheoliadau i gyfyngu ar hyrwyddo a lleoli bwyd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr yn cael eu gosod yn y Senedd. Mae hyn yn nodi cam hollbwysig ym mrwydr Cymru yn erbyn lefelau gordewdra sy’n codi.
Nod Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yw newid y ffordd y mae siopau yn hyrwyddo bwyd sy’n llai iach, drwy dargedu’r hyn y mae arbenigwyr yn ei gydnabod yn un o’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am yr her gordewdra.
Bydd y Rheoliadau:
- yn cyfyngu ar hyrwyddo bwyd a diod mewn ffordd sy’n gallu annog pobl i orfwyta, fel cynigion i brynu sawl eitem am bris llai ac i ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim
- yn cyfyngu ar gyflwyno bwyd â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen yn y lleoliadau gwerthu gorau mewn siopau, fel wrth y fynedfa a’r mannau talu ac ar dudalen hafan gwefannau
- yn berthnasol i fusnesau canolig a mawr sydd â 50 o weithwyr neu ragor
Mae’r cyfyngiadau’n adlewyrchu i raddau helaeth reolau sydd wedi’u cyflwyno’n barod yn Lloegr. Bydd cyfnod gweithredu o 12 mis cyn i’r Rheoliadau gael eu cyflwyno ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ar yr amod y byddant yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd drwy bleidlais fis nesaf.
Mae’r cyfyngiadau ar le y bydd bwyd afiach yn gallu cael ei arddangos a’i hyrwyddo wedi’u cynllunio fel na fydd pobl yn cael eu cymell yn sydyn i brynu nac yn gorfwyta.
Mae ymchwil yn dangos bod hyd at 83% o enghreifftiau o brynu ar sail cynnig arbennig yn digwydd pan fydd pobl wedi’u cymell yn sydyn i wneud hynny. Yn ogystal â hynny, mae bron i hanner (43%) o’r cynnyrch bwyd a diod mewn lleoliadau amlwg mewn siopau yn hyrwyddo bwyd a diod llawn siwgr.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: “Mae’r Rheoliadau hyn yn gam ymlaen yn ein strategaeth hirdymor i fynd i’r afael â’r broblem gordewdra sy’n tyfu yng Nghymru.
“Drwy wella’r amgylchedd bwyd, ein nod yw sicrhau mai’r dewis iachach yw’r dewis hawsaf. Gallwn wneud hyn drwy sicrhau bod bwyd a diod iachach ar gael yn haws, bod pobl yn gallu cael gafael arnyn nhw a’u bod yn fwy amlwg i bobl yn y siopau.
“Erbyn hyn, mae 60 y cant o oedolion Cymru, a bron i chwarter plant Cymru pan fyddan nhw’n dechrau yn yr ysgol, dros eu pwysau neu’n ordew. Mae’n rhaid inni weithredu i helpu pobl i wneud newidiadau cadarnhaol i’w deiet a’u ffordd o fyw.
“Mae’r amgylchedd manwerthu mewn siopau yn chwarae rôl i ddylanwadu ar y bwyd a diod rydyn ni’n eu prynu. Mae’r strategaethau hyrwyddo a marchnata sy’n cael eu defnyddio gan y sector yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd gwael ar draws cymunedau Cymru.”
Dywedodd Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gefnogol iawn i’r cynigion hyn.
“Mae ein deiet yn prysur ddod yn brif achos afiechyd y byddai modd ei atal yng Nghymru – sy’n effeithio ar unigolion ac yn creu galw yn ein Gwasanaeth Iechyd. Mae cryn dipyn o dystiolaeth ymchwil sy’n dangos bod y ffordd y mae bwyd yn cael ei gyflwyno a’i leoli mewn siopau yn cael effaith ar y dewisiadau y byddwn ni’n eu gwneud.
“Rhoi mwy o ddewis i’r cwsmer yw nod y ddeddfwriaeth hon. Bydd yn helpu i sicrhau nad oes gan y manwerthwr fantais dros y defnyddiwr.
“Rydyn ni’n gwybod bod pobl eisiau gwneud dewisiadau iachach. Mae hwn yn un cam i’w helpu nhw i wneud hynny ond mae llawer rhagor o waith i’w wneud.”
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.