Cost bywyd: sut mae’r cynnydd aruthrol mewn costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl
Mae’r costau byw presennol yn argyfwng iechyd cyhoeddus, a allai fod ar yr un raddfa â phandemig Covid-19, yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Canlyniad costau byw uwch yw bod llawer o gartrefi yn torri’n ôl ar hanfodion, ac aelwydydd incwm isel sydd fwyaf mewn perygl. Mae hyn yn arwain at gwymp mewn safonau byw a fydd yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, ac yn gwaethygu cyflyrau sy’n bodoli eisoes.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar effaith niweidiol y cynnydd mewn costau ynni a bwyd ar iechyd a llesiant pobl, a’r hyn y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill yn dweud y gellir ei wneud i liniaru hyn.
Beth mae pobl yn ei ddweud am y ffordd mae costau byw cynyddol yn effeithio ar eu hiechyd?
Yn ôl ymchwil gan Goleg Brenhinol y Meddygon, mae 60 y cant o bobl yng Nghymru yn teimlo bod costau byw wedi effeithio’n negyddol ar eu hiechyd. Yn adroddiad ‘A snapshot of poverty’ Sefydliad Bevan yn haf 2022, canfu fod llawer o bobl yn debygol o brofi effaith negyddolar eu hiechyd corfforol (30 y cant o bobl) a meddyliol (43 y cant). Efallai y bydd rhai pobl yn gweld bod eu problemau ariannol yn dechrau effeithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol am y tro cyntaf, a phobl eraill a oedd yn flaenorol yn ymdopi o drwch blewyn bellach yn cael eu gwthio i’r dibyn o bosibl, a gall eu sefyllfa droi’n argyfyngus. Mae’r canlyniadau i’r rhai sydd eisoes yn cael problemau ariannol yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy enbydus.
Gall tai oer fod yn angheuol
Mae prisiau ynni cynyddol yn gwthio mwy o bobl yng Nghymru i dlodi tanwydd (wedi’i ddiffinio fel gwario mwy na 10 y cant o incwm y cartref i gadw eu tŷ yn gynnes), ac mae aelwydydd gwledig yn cael eu taro’n arbennig o galed. Mae cynnydd o ran costau ynni yn cael ei waethygu gan y ffaith mai tai yng Nghymru yw rhai o’r tai lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop.
Fel y dywedodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, mae tai cynnes yn achub bywydau, ac mae tai oer yn gallu lladd. Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ganfod bod 30 y cant o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru yn digwydd o ganlyniad i dai oer, gyda 10 y cant yn gysylltiedig yn uniongyrchol â thlodi tanwydd.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.