Cefnogi Traed Bach i gerdded

Mae cynlluniau ledled Cymru sy’n annog plant a phobl ifanc i fabwysiadu arferion cerdded iach yn mynd o nerth i nerth.


Mae’r sefydliad Living Streets wedi darparu traciwr teithio sydd â system wobrwyo i annog plant i ddefnyddio dulliau teithio llesol a chynaliadwy i fynd i’r ysgol.
Rhwng 2023 a 2025 gweithiodd y sefydliad gyda dros 55,800 o ddisgyblion mewn 189 o ysgolion cynradd a 7700 o ddisgyblion mewn 42 o ysgolion uwchradd, gan gofnodi dros 5.4 miliwn o deithiau fel rhan o’r rhaglen Cerdded i’r Ysgol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ymddangosodd tair ysgol yng Nghymru yn y Deg Uchaf ar fwrdd arwain ysgolion “Traciwr Teithio WoW” ledled y DU.


Yn sgil poblogrwydd y rhaglen cafodd ei hehangu yn 2025 – 26, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i leoliadau blynyddoedd cynnar o dan y rhaglen Traed Bach, sydd ar gyfer plant rhwng 2 a 5 oed.


Mae Traed Bach yn cyflwyno manteision cerdded i blant ifanc a’u teuluoedd, gan eu hannog i fabwysiadu arferion cerdded iach trwy bynciau sy’n gysylltiedig â’r Nodau Dysgu Cynnar.


Mae cyllid gwerth dros £400,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y gyllideb ddrafft i adeiladu ar y llwyddiant hwn a chyflwyno Traed Bach ochr yn ochr â’r rhaglen ehangach mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig