Canllawiau newydd i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a dylunio lleoedd iachach ledled Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddylunio, cynllunio a chreu lleoedd sy’n galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach.


Mae’r canllawiau Cynllunio Lleoedd Iach yn amlinellu sut y gellir gwreiddio iechyd ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), sef y fframwaith cynllunio hirdymor sy’n nodi ble a sut y bydd tai, cyflogaeth, cyfleusterau, cysylltiadau trafnidiaeth, mannau gwyrdd a gwasanaethau cymunedol newydd yn cael eu lleoli.
Mae gan yr amgylchedd adeiledig a naturiol ddylanwad sylweddol ar ein hiechyd a’n llesiant a gall helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae mynediad at fannau gwyrdd, tai o ansawdd da, lleoedd diogel ar gyfer cerdded a beicio, a chyfleoedd i gysylltu ag eraill i gyd yn cael eu llywio gan benderfyniadau cynllunio a dylunio.


Nod y canllawiau yw helpu gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio ac iechyd i gydweithio’n agosach er mwyn sicrhau bod yr ystyriaethau iechyd hyn yn cael eu rhoi wrth wraidd datblygiadau yn y dyfodol ledled Cymru.


Mae’n rhoi cyngor ymarferol i gynllunwyr, timau iechyd y cyhoedd, a phartneriaid ar y canlynol:
• Defnyddio data iechyd lleol ac anghenion cymunedol i lywio polisïau cynllunio
• Gwreiddio blaenoriaethau iechyd a llesiant mewn Cynlluniau Datblygu Lleol
• Cymhwyso Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) wrth ddrafftio neu adolygu polisïau
• Dylunio cymunedau sy’n cefnogi teithio llesol, mynediad at natur, cysylltiad cymdeithasol a bwyd iach
• Lleihau anghydraddoldebau drwy sicrhau bod pob cymuned yn elwa ar amgylcheddau iach sydd wedi’u cynllunio’n dda.


Mae’r canllawiau yn ymateb i gydnabyddiaeth gynyddol ledled Cymru fod polisi cynllunio yn chwarae rhan allweddol wrth wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd, a bod amgylcheddau iachach yn gallu atal salwch a lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal yn y tymor hir.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig