Camau pwysig i ddiogelu iechyd a lleddfu pwysau ar wasanaethau’r gaeaf hwn
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf, mewnwelediadau ymddygiadol ac offer ymarferol i gefnogi cydweithwyr a gwasanaethau iechyd a gofal i baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.
Mae’r adroddiad sy’n dwyn y teitl, Llesiant yn ystod y Gaeaf: Camau Gweithredu ac Effaith a Rennir, wedi’i gynllunio i ategu fframweithiau cynllunio ar gyfer y gaeaf presennol y GIG a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi canllawiau ymarferol a rhestrau gwirio i helpu timau i gryfhau gwydnwch y system, cynnal iechyd y boblogaeth, a lleihau’r galw am wasanaethau.
Mae’r adroddiad wedi’i ddiweddaru hwn yn adeiladu ar adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019, sef “Gwella iechyd a llesiant yn ystod y gaeaf a lleihau pwysau’r gaeaf yng Nghymru”, yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wyddor ymddygiad i gynllunio ar gyfer y gaeaf.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at chwe maes blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu ar y cyd mewn perthynas ag unigolion, cymunedau a systemau:
• Atal a rheoli clefydau heintus
• Cadw’n gynnes ac yn iach
• Cael mynediad at y gofal cywir ar yr amser iawn
• Cefnogi iechyd a llesiant meddyliol
• Cefnogi poblogaethau agored i niwed
• Adeiladu gwydnwch y gweithlu gofal iechyd
Mae pob adran yn darparu rhestrau gwirio ymarferol ac adnoddau parod i’w defnyddio sydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â phrosesau cynllunio ar gyfer y gaeaf presennol. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu timau gwasanaethau iechyd a gofal i ganolbwyntio eu hymdrechion, cynnal cysondeb, ac aros yn iach yn ystod cyfnodau o alw mawr.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.