Arolwg yn datgelu dirywiad mewn iechyd corfforol a meddyliol yng Nghymru

Er i dros hanner y bobl yng Nghymru roi blaenoriaeth uchel i ofalu am eu hiechyd, mae llawer yn profi dirywiad yn eu llesiant corfforol a meddyliol, yn ôl yr arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pan ofynnwyd iddynt pa effaith y mae 17 ffactor gwahanol yn ei chael ar eu hiechyd, nododd ymatebwyr mai’r tair effaith bositif bennaf oedd: 

  • Mynediad i fyd natur a mannau awyr agored (74 y cant)  
  • Eu lefelau gweithgarwch corfforol (63 y cant) 
  • Amgylchedd eu cartref (58 y cant) 

Mewn cyferbyniad, adroddwyd mai’r tair effaith negyddol bennaf ar eu hiechyd oedd: 

  • Eu mynediad at wasanaethau gofal iechyd (42 y cant) 
  • Eu sefyllfa ariannol (34 y cant) 
  • Cyfryngau Cymdeithasol (34 y cant) 

Mae’r canlyniadau’n amlygu’r angen brys am weithredu i greu amgylcheddau sy’n cefnogi gwell iechyd a llesiant a phan fydd pobl yn profi problemau iechyd, iddynt gael mynediad amserol at wasanaethau gofal iechyd 

Mae’r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd ag adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru, Buddsoddi mewn Cymru Iachach, sy’n pwysleisio’r angen am fuddsoddi sy’n canolbwyntio ar atal i wella llesiant, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a sicrhau gwell gwerth am arian cyhoeddus. 

Canfu’r arolwg hefyd fod 53 y cant o bobl yn dweud bod eu hiechyd corfforol wedi gwaethygu dros y tair blynedd diwethaf, ac adroddodd 36 y cant ddirywiad yn eu hiechyd meddwl. Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar eu hiechyd a’u llesiant, gyda 28% yn dweud bod eu lefelau gweithgarwch corfforol presennol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig