Arolwg Blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adborth gan ddefnyddwyr allanol ar gynhyrchion data a gwybodaeth  

Rydym yn eich gwahodd i helpu i lunio allbynnau data a gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr eu bod mor addas, defnyddiol ac mor effeithiol â phosibl. Mae’r allbynnau hyn yn cynnwys unrhyw gynhyrchion ymchwil, gwerthuso, tystiolaeth, neu ddadansoddol a gynhyrchwn megis adroddiadau, dangosfyrddau, pecynnau cymorth, cylchlythyrau, ac adnoddau eraill y gallech eu defnyddio.   

Mae modd cael mynediad at arolwg blynyddol gynhyrchion data a gwybodaeth trwy’r ddolen isod tan Dydd Gwener 5ed Gorffennaf ac mae’n gwbl ddienw.  

Arolwg Defnyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru  

Rhoddodd arolwg y llynedd lawer o fewnwelediadau gwerthfawr i ni i’n helpu i wella ac maent wedi cael eu bwydo i waith megis ein prosiect trawsnewid gwe a gwaith safonau cyhoeddi.  

Dyma’ch cyfle chi i lunio’r hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n ei wneud er mwyn sicrhau bod ein cynhyrchion gwybodaeth yn parhau i esblygu a gwella er mwyn diwallu anghenion rhanddeiliaid a chael yr effaith orau bosibl. 

Helpwch ni i ehangu ein cyrhaeddiad drwy annog unrhyw un yr ydych yn ymwybodol ohono sy’n defnyddio neu a allai fod yn defnyddio data a gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i lenwi’r arolwg hefyd.   

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected]  

Diolch i chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth. Dylai gymryd tua 10 munud (digon o amser ar gyfer coffi!)

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig