Annog pobl i gael brechlyn ffliw i leihau’r risg o salwch difrifol mewn pobl sy’n agored i niwed
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl â chyflyrau iechyd hirdymor i gael eu brechiad rhag y ffliw y gaeaf hwn i helpu i’w hamddiffyn rhag salwch difrifol.
Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i bobl â chyflyrau iechyd penodol fel asthma a diabetes sy’n eu gwneud yn fwy agored i gymhlethdodau difrifol o ganlyniad i feirws y ffliw.
Mae oedolion â chlefyd cronig yr afu dros 48 gwaith yn fwy tebygol o brofi canlyniadau difrifol o’r ffliw, tra bod y rhai â systemau imiwnedd gwan yn wynebu risg sydd dros 45 gwaith yn uwch na’r boblogaeth gyffredinol.
Cynigir y brechlyn ffliw bob blwyddyn i helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol. Mae’n arbennig o bwysig i oedolion hŷn, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, plant ifanc a menywod beichiog gan y gall dal y ffliw yn ystod beichiogrwydd gael effaith ddifrifol ar iechyd menywod beichiog a babanod.
Mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu bob blwyddyn i amddiffyn eu hunain a’u hanwyliaid rhag y ffliw. Y llynedd yng Nghymru, gwnaeth bron i 200,000 o bobl â chyflyrau fel diabetes, asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chlefyd y galon amddiffyn eu hunain trwy gael eu brechlyn ffliw.
Cafodd mwy na 10,000 o fenywod beichiog yng Nghymru eu brechlyn ffliw y llynedd hefyd i helpu i amddiffyn eu hunain a’u babanod.
Mae brechiad rhag y ffliw yn lleihau’r risg o haint, yn lleihau difrifoldeb y salwch, yn helpu i amddiffyn grwpiau agored i niwed rhag cymhlethdodau difrifol ac yn lleihau’r tebygolrwydd o ledaenu’r salwch i eraill.
Mae’r rhai sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl 65 oed a hŷn, pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr, menywod beichiog a phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal.
Mae plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2025) yn gymwys, ac mae plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd (blwyddyn derbyn i flwyddyn 11) hefyd yn gymwys i gael brechlyn ffliw. Rhowch eich cydsyniad i’ch plentyn gael ei frechlyn ffliw er mwyn helpu i’w amddiffyn rhag salwch difrifol.
Brechiad rhag y ffliw yw un o’r ffyrdd y gallwn gefnogi pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, a thrwy hynny helpu i atal salwch, canfod problemau’n gynnar, a sicrhau bod gofal yn diwallu anghenion pobl.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.