Emma Girvan
Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus
Mae Emma wedi gweithio ym maes iechyd o fewn y GIG ers dros 15 mlynedd, ac wedi treulio’r naw mlynedd diwethaf yn gweithio gyda Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Betsi Cadwaladr fel Uwch Ymarferydd, cyn ymuno â’r Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd ym mis Hydref 2023.
Dechreuodd Emma ei gyrfa mewn Iechyd Cyhoeddus yn cynorthwyo Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru i gyflawni Gwobr y Safon Iechyd Corfforaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Aeth ymlaen i weithio yn Lloegr gydag Ymddiriedolaeth GIG Cymunedol Cilgwri fel Cynghorydd Rheoli Pwysau gyda’r Gwasanaethau Rheoli Pwysau Lefel 3.
Yn ei rôl flaenorol fel Uwch Ymarferydd o fewn y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol, bu Emma’n arwain ar lawer o bynciau gan gynnwys Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif, Dechrau Gorau, a Phwysau Iach Plant ac Oedolion. Yn ystod y cyfnod hwn, cyflawnodd Emma Ddiploma Ôl-raddedig mewn Iechyd Cyhoeddus gyda Phrifysgol Caer, ac mae’n gobeithio cwblhau gradd Meistr lawn yn y pen draw.
Mae Emma’n eiriolwr brwd dros leihau anghydraddoldebau mewn iechyd, a sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Read about our other team members
Catherine Evans
Network Co-ordinator
Marie Griffiths
Network Co-ordinator
Jamie Lee-Wyatt
Admin & Resource Officer
Christian Heathcote-Elliott
Principal Public Health Practitioner
Dr Ciarán Humphreys
Consultant in Public Health