Christian Heathcote-Elliott
Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Uned Penderfynyddion Ehangach yr Uned Iechyd)
Mae Christian wedi gweithio yn y GIG ers 19 blynedd ym maes gwybodaeth iechyd y cyhoedd a gwella iechyd.
Symudodd i Gymru ym mis Hydref 2006 i weithio i Dîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Abertawe fel arbenigwr hybu iechyd ac wedyn fel uwch a phrif ymarferydd iechyd y cyhoedd i Dîm Iechyd y Cyhoedd Abertawe Bro-Morgannwg. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd brofiad helaeth o faterion eang gwella iechyd yn cynnwys iechyd troseddwyr, camddefnyddio sylweddau, gordewdra, rheoli tybaco, cynllunio trefol iach ac agweddau ar iechyd cyhoeddus gofal iechyd.
O fis Mawrth 2016 hyd at fis Gorffennaf 2020, gweithiodd Christian fel prif arweinydd cenedlaethol rheoli tybaco yn is-adran Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y swydd hon, roedd yn allweddol wrth darparu arweinyddiaeth system ar gyfer datblygu a gweithredu Helpa Fi I Stopio – system rhoi’r gorau i smygu y GIG ar gyfer Cymru.
Mae’n edrych ymlaen at her newydd a gweithio’n gydweithredol gyda phartneriaid ar ‘achosion yr achosion’ o iechyd gwael ac anghydraddoldebau iechyd a gweithio gyda’r tîm i ddatblygu Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ymhellach.
Darllen mwy
Jamie Topp
Swyddog Cynnwys Digidol
Dr Ciarán Humphreys
Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus
Cerys Preece
Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus
Marie Griffiths
Cydlynydd Rhwydwaith
Catherine Evans
Cydlynydd Rhwydwaith