Dyddiad + Amser
5 Gorffennaf 2025
12:00 YB - 11:59 YP
Mae Wythnos Natur Cymru yn ddathliad o’n natur hudolus – o rywogaethau cyffredin a welwn bob dydd, fel dant y llew a chacwn cynffon lwydfelen, i ffyngau hynod ddiddorol, barcudiaid yn hedfan a gwiwerod coch acrobatig. Mae’n dathlu’r gerddi, y caeau a’r dolydd, y coedwigoedd a’r goedwig law Geltaidd, y dŵr a’r ffosydd draenio, glan y môr a’r twyni, a’r holl fannau hudolus lle mae byd natur yn ymgartrefu. Ac yn bwysig, mae’n dathlu’r bobl, sefydliadau natur, cymunedau, ysgolion a grwpiau ffydd sy’n gwneud gwaith anhygoel er budd natur yn eu hardal.
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.