DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Gyda’n gilydd: Cefnogi pobl LHDTC+ i ddeall alcohol yn well, osgoi problemau, a chael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw

Dydd Iau 21 Medi 2023
With Alcohol Change UK

Mae mwy o berygl i bobl LHDTC+ wynebu problemau alcohol; ond pan fyddan nhw’n mynd trwy’r fath broblemau mae’n llai tebygol iddyn nhw gael y cymorth mae ei angen arnyn nhw.

Yn y seiat ddysgu ar-lein yma, byddwn ni’n clywed gan bobl gyda phrofiad personol a phroffesiynol o yfed mewn cymunedau LHDTC+, gweithio i greu mwy o lefydd di-alcohol i bobl LHDTC+, a sut mae gwasanaethau cymorth yn gallu bod yn haws eu cael ac yn fwy perthnasol.

Os ydych chi’n gweithio i wneud gwasanaethau alcohol yn fwy croesawgar i bawb, dyna’r digwyddiad i chi.

Dyna rai o’r siaradwyr a gadarnhawyd hyd yn hyn:

  • Maryann Wright, sylfaenydd Sappho Events, sy’n creu mannau cymdeithasol saff a sobr i fenywod LHDTC+
  • Hidayah UK, yn siarad am eu gwaith i gefnogi Mwslimiaid LHDTC+
  • Amanda Atkinson o Brifysgol John Moores Lerpwl, ar eu hymchwil hi i brofiadau pobl LHDTC+ o economi’r nos
  • Monty Moncrieff, London Friend, ar sut gall gwasanaethau alcohol a chyffuriau gyrraedd mwy o pobl LHDTC+

Darllenwch yr agenda yma.

Mae tocynnau ar gael am £35 +TAW.

Adborth am ddigwyddiadau

Mae gennym ddiddordeb bob amser i glywed adborth ar ein digwyddiadau ac awgrymiadau ar rai yn y dyfodol. Os hoffech roi adborth inni ar y digwyddiad hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Rhowch adborth

Tagiau

Digwyddiadau eraill yn y gorffennol

Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig