Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Iau 2 Mawrth 2023
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Wrth gymharu ystod o faterion cymdeithasol a materion iechyd mewn gwledydd cyfoethog, gan gynnwys iechyd meddwl, addysg, gordewdra, ymddiriedaeth a bywyd cymunedol, trais, a lles plant, gwelir bod cymdeithasau sy’n gwneud yn dda mewn un maes yn tueddu i wneud yn dda yn y lleill. Yn yr un modd, mae cymdeithasau sy’n gwneud yn wael mewn un maes yn gwneud yn wael ym mhob un ohonynt. Beth sy’n cyfrif am y gwahaniaeth? Yr hyn sy’n allweddol yw faint o anghydraddoldeb sy’n bodoli ym mhob cymdeithas. Po fwyaf anghyfartal yw’r gymdeithas, y mwyaf o afiechyd a phroblemau cymdeithasol sydd ganddi.
Yn y gweminar hwn rhoddodd yr Athro Richard Wilkinson, cyd-awdur The Spirit Level a The Inner Level, ei safbwynt ar y rhesymau pam mae anghydraddoldebau materol yn gwneud pobl yn fwy anghymdeithasol, yn gwneud rhaniadau statws a dosbarth yn fwy pwerus, yn cynyddu straen, yn niweidio iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac yn rhwystr rhag cynaliadwyedd.
Gwybodaeth ychwanegol am y siaradwr:
Mae’r Athro Richard Wilkinson wedi chwarae rhan ffurfiannol mewn ymchwil ryngwladol ar benderfynyddion cymdeithasol yn ymwneud ag iechyd, ac ar yr effeithiau cymdeithasol sy’n deillio o anghydraddoldeb incwm. Bu’n astudio hanes economaidd yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) cyn hyfforddi mewn epidemioleg. Mae’n Athro Emeritws mewn Epidemioleg Gymdeithasol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Nottingham, yn Athro Anrhydeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Efrog. Ysgrifennodd Richard The Spirit Level ar y cyd â Kate Pickett ac enillodd y llyfr Wobr Cyhoeddiad y Flwyddyn 2011 y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol, a Gwobr Gŵyl Syniadau Bryste 2010. Yn ogystal, mae Richard yn gyd-sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth Cydraddoldeb.
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'