Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Mercher 15 Medi 2021
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn y weminar hon, clywsom gan Jules Davies o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, oedd yn trafod y rôl y gall Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd ei chwarae yn adferiad COVID-19. Amlinellodd Dr David Llewellyn waith cynllun peilot Natur Caerffili ar Bresgripsiwn sydd yn cael ei arwain gan Rwydwaith Llesiant Integredig Aneurin Bevan a’r Athro Carolyn Wallace, o Brifysgol De Cymru oedd yn trafod y gwaith cyffrous sydd yn cael ei arwain gan Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru.
Gyda’i gilydd, cyflwynwyd y gwaith y mae eu sefydliadau perthnasol yn ei wneud fydd yn ychwanegu at y sail dystiolaeth ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, gan gefnogi datblygiad cenedlaethol yr agenda presgripsiynu cymdeithasol a chyflwyno cynlluniau peilot presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd ar lawr gwlad.
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'