Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Mercher 15 Mawrth 2017
With Public Health Network Cymru
Cafodd y digwyddiad hwn ei gadeirio gan Sarah Crawley, Cyfarwyddwr, Barnardo’s Cymru yn y bore a Steve Thomas, CBE, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y prynhawn. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 15 Mawrth 2017 yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd.
Nod y digwyddiad oedd rhoi cyfle i glywed gan arbenigwyr ym maes ACE a mynd i’r afael â’r ffordd y mae gwaith ymarferwyr yn cyfrannu at leihau effaith hirdymor ACE. Cafodd y cynadleddwyr gyfle yn ystod y dydd i roi adborth gwerthfawr i lywio datblygiad hyb ACE er mwyn rhoi cymorth ac arweiniad i ymarferwyr a dod yn fwy gwybodus am ACE. Llwyddwyd i wneud hyn trwy nifer o gyflwyniadau a chyfres o weithdai yn cynnwys ymagwedd seicoleg gadarnhaol. Cafodd y cynadleddwyr hefyd gopi o graff gwybodaeth ACE sy’n amlygu canfyddiadau astudiaeth Cymru er gwybodaeth.
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'