Dyddiad + Amser
12 Tachwedd 2025
10:00 YB - 12:00 YP
A yw mynediad at natur yn bwysig ar gyfer creu cymunedau iach? A all gefnogi ein huchelgeisiau i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau? Pa rôl mae’r sector iechyd yn ei chwarae wrth hyrwyddo bioamrywiaeth?
Bydd y weminar hon yn archwilio’r cysylltiad rhwng natur ac iechyd a’i lle wrth greu cymunedau iach a chynaliadwy. Byddwn yn cael rhagor o wybodaeth am yr argyfyngau Hinsawdd a Natur yng Nghymru ac yn trafod rôl y sector iechyd wrth fynd i’r afael â’r materion hyn. Byddwn yn archwilio manteision bioamrywiaeth i’n hiechyd a’n llesiant ac yn dysgu am brosiectau a rhaglenni o bob cwr o Gymru.
Erbyn diwedd y weminar hon, bydd gan y rhai sy’n bresennol:
• Ymwybyddiaeth o sut mae bioamrywiaeth yn cyfrannu at ddyfodol iach a chynaliadwy
• Dealltwriaeth o fanteision natur i iechyd meddwl a chorfforol a’r dystiolaeth sy’n cefnogi hyn
• Gwerthfawrogiad o’r amrywiaeth o brosiectau a mentrau sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth ac sy’n dod â manteision i iechyd a llesiant pobl
12 Tachwedd 2025
10:00 YB - 12:00 YP
Ar-lein
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.