11 Meh
External

Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) ar gyfer Cyflogwyr

CIW - Cymru Iach ar Waith

11 Meh

Dyddiad + Amser

11 Mehefin 2025

10:30 YB - 11:30 YB

Math

Allanol

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Ymunwch â Gweminar Cymru Iach ar Waith (CIW) Am Ddim: Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) ar gyfer Cyflogwyr – Yn ôl oherwydd Galw Mawr!

Yn dilyn diddordeb mawr a’r adborth cadarnhaol a gafwyd yn dilyn ein sesiwn flaenorol, mae Cymru Iach ar Waith yn falch o gynnig ail gyfle i ymuno â’n gweminar am ddim: Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr Wrth i anghenion gweithwyr esblygu a chostau sefydliadol barhau i godi, mae bod â strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwysicach nag erioed.

Bydd y sesiwn ymarferol hon a gyflwynir gan Gynghorwyr CIW, yn rhoi cipolwg hanfodol i’ch helpu i wella llesiant yn y gweithle a lleihau absenoldeb.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

  • Tueddiadau o ran absenoldeb oherwydd salwch yng Nghymru a’r DU
  • Sut mae cael gweithwyr i ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd
  • Mewnwelediadau gan ⁠Cartrefi Melin (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol
  • Sut mae cael gafael ar adnoddau gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar reoli absenoldeb oherwydd salwch.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael mynediad at ganllawiau arbenigol ac offer ymarferol i gefnogi eich sefydliad—yn rhad ac am ddim.

Gallwch gymryd rhan am ddim.

Siaradwyr:

  • Nikki Davies, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • Deanna Hughes, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: [email protected].

Cofrestrwch yma erbyn dydd Mercher 04 Mehefin.

Dyddiad + Amser

10:30 YB - 11:30 YB

Math

Allanol

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig