Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Mercher 11 Awst 2021
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn y blynyddoedd diweddar, yn erbyn cefndir o ddirwasgiad economaidd byd-eang a pholisïau cyni o ganlyniad i hynny, ac yn fwy diweddar mewn ymateb i bandemig COVID-19, cafwyd diddordeb o’r newydd mewn hen syniad polisi – incwm sylfaenol. Mae’r syniad polisi pwysig hwn yn codi llawer o gwestiynau – o ble cafodd incwm sylfaenol ei gyflwyno ac i bwy, a beth allwn ni ei ddysgu o’r profiadau hyn? Pa effaith ar iechyd y gallwn ei ragweld, a sut bydd incwm sylfaenol yn effeithio ar benderfynyddion ehangach iechyd? A yw’n ymarferol cyflwyno cynllun mor bellgyrhaeddol mewn gweinyddiaeth ddatganoledig?
Archwiliodd y weminar hon y syniad o incwm sylfaenol i wella iechyd yng Nghymru.
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'