Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Mercher 19 Mai 2021
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae hunanynysu yn ymyrraeth allweddol i atal lledaeniad Covid-19, ond gall fod yn heriol i’r rheiny y gofynnir iddynt hunanynysu. Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gwneud ymchwil i ddeall yr heriau y mae cysylltiadau achosion COVID-19 yng Nghymru yn eu profi, trwy ddau brosiect ymchwil: Arolwg Neges Destun Ynghylch Hyder mewn Ymlyniad (ACTS) – arolwg SMS dyddiol o hyder cysylltiadau i ymlynu wrth ganllawiau hunanynysu; ac Arolwg Mewnwelediadau Ymddygiadol Ynghylch Ymlyniad Cysylltiadau wrth Hunanynysu (CABINS) – astudiaeth dulliau cymysg yn cynnwys arolwg dros y ffôn a grwpiau ffocws ar-lein.
Yn y weminar hon, rhannodd Dr Richard Kyle fewnwelediadau ymddygiadol o’r ddwy astudiaeth arloesol hon ac yn trafod sut mae’r canfyddiadau wedi llunio cyfathrebu ac ymyriadau iechyd y cyhoedd i gefnogi pobl sydd yn hunanynysu ar draws Cymru.
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'