Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Iau 14 Rhagfyr 2017
With Rhywdwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cadeiriwyd y seminar gan by Daisy Cole – Cyfarwyddwr Llesiant a Grymuso, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Fe’i cynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017 yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd.
Roedd y cyflwyniad cyntaf gan yr Athro Peter Elwood OBE – ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a gyflwynodd ‘Rhagfynegwyr Dementia – Lleihau’r Risg’. Roedd ei araith yn canolbwyntio ar y gwaith yr oedd ef a’r Is-adran Meddygaeth Poblogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ei wneud gyda’u gwaith ar Astudiaeth Carfan Caerffili. Roedd hyn yn cwmpasu amrywiaeth o ffactorau rhagfynegol, ac yn cynnwys sôn am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Soniodd fod dewis ffordd o fyw cywir yn fwy effeithiol nag unrhyw dabled.
Dilynwyd hyn gan Phill Chick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Uned Gyflawni Iechyd Meddwl. Teitl ei gyflwyniad oedd ‘Gwneud Lleihau’r Perygl o Ddementia yn Flaenoriaeth i Gymru’. Roedd ei anerchiad yn cynnwys lleihau risg a pham y dylai fod yn flaenoriaeth, i bwy a’r hyn oedd wedi cael ei wneud yn barod. Ategodd bod y cyngor pennaf ar gyfer atal dementia’n ymwneud â ffordd o fyw a soniodd hefyd am newid am oes a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ogystal â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Roedd y cyflwyniad terfynol gan Sue Phelps o Gymdeithas Alzheimer Cymru gyda Nigel, gŵr bonheddig sy’n byw gyda dementia, ar wirfoddolwyr yng Ngwent. Rhoddodd Sue drosolwg o raglen gwirfoddolwyr y Gymdeithas Alzheimer ‘In Your Shoes – We Get It’ a rhoddodd Nigel gipolwg i’r cynadleddwyr ar ei brofiadau ef o fyw gyda dementia.
Dilynwyd y cyflwyniadau gyda sesiwn holi ac ateb, gyda’r siaradwyr yn derbyn cwestiynau o’r ystafell gyda Daisy Cole yn llywyddu.
Ar ôl saib am ginio, cynhaliwyd tair sesiwn, gyda Shana Thomas (Chwaraeon Cymru) a Vicki Sutton (Cymdeithas Chwaraeon Cymru) yn cynnal sesiwn baralel gyda Sharon Ford o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cynhaliwyd y drydedd sesiwn gan Bronia Bendall o Gyfoeth Naturiol Cymru. Ar ôl y sesiwn olaf, cyflwynodd Daisy Cole ei sylwadau terfynol i’r ystafell cyn cau’r digwyddiad am y dydd.
Derbyniodd Malcolm Ward o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfres o gwestiynau hefyd gan ddefnyddio meddalwedd pleidleisio byw lle’r oedd aelodau’r gynulleidfa’n gallu pleidleisio mewn amser real. Mae canlyniadau’r bleidlais ar gael yn yr adnoddau isod.
Cafodd y digwyddiad ei ffrydio’n fyw hefyd ar twitter, a gafodd 23 o wylwyr byw ar y diwrnod. Gellir gwylio’r ffrwd yn fyw yma: https://twitter.com/PHNetworkCymru/status/941256283369459713
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'