Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Iau 13 Gorffennaf 2023
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae masnach yn benderfynydd masnachol allweddol o iechyd ac mae’n effeithio ar bawb yng Nghymru. Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yw un o’r cytundebau masnach rydd mwyaf yn y byd, sy’n cynnwys un ar ddeg o wledydd ar bedwar cyfandir ac roedd yn cyfrif am £96 biliwn o fasnach y Deyrnas Unedig yn 2018 (7 y cant o gyfanswm masnach y Deyrnas Unedig). Daeth CPTPP i rym ar 30 Rhagfyr 2018, a phwysleisiodd aelodau presennol eu bod yn benderfynol o ymestyn y cytundeb gydag aelodau newydd yng nghyfarfod comisiwn CPTPP ar 19 Ionawr 2019.
Gallai CPTPP ddylanwadu ar ystod o faterion iechyd cyhoeddus ar draws penderfynyddion cymdeithasol iechyd ac effeithio ar wahanol boblogaethau mewn gwahanol ffyrdd. Gall Asesiad o’r Effaith ar Iechyd fod yn offeryn pwysig i asesu effeithiau posibl cytundebau masnach ar iechyd a lles. Bydd y weminar hon yn trafod canfyddiadau’r asesiad o effaith CPTPP ar iechyd ar gyfer Cymru gyda phwyslais ar effeithiau ar iechyd, lles a thegwch.
Ymunwch â’n panel o arbenigwyr i gael gwybod am yr ail Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a gynhaliwyd ar CPTPP yn y byd.
Deilliannau Dysgu:
Cadeirydd:
Siaradwyr:
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'