Dyddiad + Amser
27 Ionawr 2025
1:00 YP - 3:00 YP
Ymunwch â ni, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, yn y digwyddiad hwn i ddathlu dros ddegawd o’r WMCS (Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD) a darganfyddwch sut i bori ein data trwy borth data WISERD.
Astudiaeth hydredol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r WMCS sy’n olrhain cynnydd plant a phobl ifanc yn tyfu i fyny yng Nghymru dros amser. Ers 2012, mae’r prosiect wedi bod yn holi tri grŵp blwyddyn mewn ysgolion uwchradd yn flynyddol. Mae’n darparu cyfoeth o dystiolaeth ar fywydau pobl ifanc ar bynciau fel canfyddiadau disgyblion o’r ysgol, y cwricwlwm newydd, hiliaeth, triniaeth wahaniaethol, ymgysylltu gwleidyddol, a’r Gymraeg, ochr yn ochr â materion mwy byd-eang fel newid hinsawdd. Mae’r WMCS yn adnodd gwerthfawr a ddefnyddir gan ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi ledled Cymru.
Amseroedd: cyflwyniadau a sesiwn holi ac ateb 1-2.30yh, ac yna lluniaeth ysgafn a rhwydweithio 2.30-3yh.
Amserlen
1.00pm – 1.10pm Cofrestru
1.10pm – 1.20pm Croeso – Dr Rhian Barrance
1.20pm – 2.00pm Cyflwyniad – dros ddegawd o’r WMCS – Dr Rhian Barrance & Dr Laura Arman
2.00pm – 2.15pm Cyflwyniad am y porth – Sam Jones & Prof Scott Orford
2.15pm – 2.30pm Sesiwn holi
2.30pm – 3.00pm Te/coffi a rhwydweithio
RSVP drwy lenwi’r ddolen gofrestru hon i gadarnhau eich presenoldeb erbyn 20 Ionawr.
1:00 YP - 3:00 YP
Spark
Maindy Road
Cardiff
United Kingdom
Allanol
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.