DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Canllaw i Lywodraethwyr i Fynd i’r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg

Dydd Mercher 21 Mehefin 2023
With Plant yng Nghymru

Gwyddom fod 4 o bob 10 o’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, eu haddysg a’u cyfleoedd bywyd yn y dyfodol.  Mae effaith tlodi ar ddysgwyr o deuluoedd incwm is wedi’i gofnodi’n dda ac mae’n effeithio ar les a chyrhaeddiad. Gall costau cysylltiedig y diwrnod ysgol waethygu hyn a gall bywyd ymarferol o ddydd i ddydd ddod yn broblemus.

Mae ein Canllaw Pris Tlodi Disgyblion llwyddiannus wedi’u cynllunio ar gyfer ysgolion ac yn mynd i’r afael â phum maes allweddol (Deall Tlodi; Gwisg ysgol a dillad; Bwyd a newyn; Cymryd rhan ym mywyd yr ysgol; Perthynas Cartref-Ysgol) wedi cael eu datblygu i fod yn Ganllaw i Lywodraethwyr Ysgol newydd.

Wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer Llywodraethwyr, mae’r canllaw hwn yn rhoi cipolwg ar bob un o bum maes allweddol y Canllawiau o safbwynt llywodraethwyr a hefyd yn edrych ar bolisïau’r ysgol, cyllid Llywodraeth Cymru a phrosiectau i fynd i’r afael â thlodi mewn ysgolion.

Ymunwch â Plant yng Nghymru i gael gweminar ymwybyddiaeth a gwybodaeth AM DDIM ar y Canllaw i Lywodraethwyr newydd i Fynd i’r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg, a fydd yn cyflwyno’r canllaw newydd ac yn darparu cymorth a chyngor ymarferol ar gael gwared ar rwystrau ariannol i gyfranogiad disgyblion.  Fel llywodraethwr, gallwch gefnogi eich ysgol i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar y diwrnod ysgol i bob dysgwr.

Adborth am ddigwyddiadau

Mae gennym ddiddordeb bob amser i glywed adborth ar ein digwyddiadau ac awgrymiadau ar rai yn y dyfodol. Os hoffech roi adborth inni ar y digwyddiad hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Rhowch adborth

Tagiau

Digwyddiadau eraill yn y gorffennol

Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    [group radio_select]

    [/group]

    [group radio_select_1]

    [/group]
    [group radio_select_2]

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'

    [/group]


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig