DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Gadael neb ar ôl – Dyfodol cysylltiadau cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru

Dydd Mercher 11 Medi 2024
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae cysylltiadau cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol yn ein hiechyd a’n lles a gallant fod yn ffactor sy’n cyfrannu at brofiad rhai pobl o ddeilliannau iechyd gwaeth. Mae newidiadau eisoes yn digwydd sy’n effeithio ar y ffyrdd rydym ni’n uniaethu â’n gilydd. Rydym ni’n byw bywydau mwyfwy digidol, mae ein bywyd gwaith yn newid ac mae newidiadau mewn demograffeg, cyfansoddiad teuluol a’r ffordd rydym ni’n ymgyslltu â gwleidyddiaeth a’n sefydliadau yn golygu bod angen i ni feddwl am yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaen i’n bywyd cymdeithasol, ein perthnasoedd a’n cymunedau. Mae ymagwedd gynhwysol at amddiffyn a hybu cysylltiadau cymdeithasol mewn byd sy’n cyflym newid yn bwysig i’n hiechyd a’n lles yn y dyfodol.

Deilliannau dysgu’r gweminar hwn fydd:

  • Gwell ymwybyddiaeth o werth cysylltiadau cymdeithasol i iechyd a lles
  • Ymwybyddiaeth o rai o’r cyfleoedd a’r heriau i gryfder ein cysylltedd cymdeithasol yn y dyfodol
  • Gwybodaeth am rai ymagweddau ymarferol at gefnogi cynhwysiant a chysylltiad cymdeithasol gwell.

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais


Gadael neb ar ôl – Dyfodol cysylltiadau cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig