Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Mercher 24 Mai 2023
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyflwynodd y gweminar hwn brofiadau a mewnwelediadau ar ddadansoddiadau dadelfennu’r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi), gyda thrafodaeth ymhlith nifer o wledydd ar ddulliau a chanfyddiadau (Cymru, yr Eidal a Slofenia). Mae’n sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gan edrych ar y ffordd y mae defnyddio methodoleg arloesol dadansoddi dadelfennu wedi arwain at ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhanbarthau eraill. Nod y gweminar oedd:
Dangosodd y panel sut y gall yr offeryn dadansoddi dadelfennu i fesur tegwch iechyd, a sut y gellir ei ddefnyddio i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Cafwyd trafodaeth banel yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ac yn archwilio unrhyw gyfyngiadau ar y dadansoddi, ac i ddilyn, ceir sesiwn cwestiwn ac ateb ymhlith y cyfranogwyr.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
CADEIRYDD: Jo Peden – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Nadia Vimercati – Rhanbarth Lombardia, yr Eidal
Elizabeth Tamang – Cyfarwyddwr Meddygol, Adran Atal, Rhanbarth Veneto, yr Eidal
Luigi Palestini – Rhanbarth Emilia-Romagna, yr Eidal
Luigi Bertinato – Ysgrifenyddiaeth Wyddonol i’r Llywydd, Sefydliad Iechyd Cenedlaethol ISS, yr Eidal
James Allen – Prif Arbenigwr Cudd-wybodaeth Iechyd y Cyhoedd – Iechyd y Boblogaeth, Bryste, Gogledd Gwlad yr Haf a De Swydd Gaerloyw
Andrej Srakar – Cydymaith Gwyddonol, Sefydliad Ymchwil Economaidd, Ljubljana; Athro Cynorthwyol, Ysgol Economeg a Busnes, Prifysgol Ljubljana
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'