10 Hyd
Online

Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru: Ffordd Ymlaen

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

10 Hyd

Dyddiad + Amser

10 Hydref 2024

10:30 YB - 12:00 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru ar gynnydd, ac er bod yr achosion sylfaenol yn aml y tu allan i’r system gofal iechyd, mae rôl hollbwysig i ofal sylfaenol wrth fynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn. Drwy gymryd camau rhagweithiol, gallwn helpu i liniaru a lleihau’r gwahaniaethau hyn, gan sicrhau gofal iechyd teg i bawb. Fodd bynnag, os nad ydym yn ofalus, gallai ein camau gweithredu ehangu’r bylchau hyn yn anfwriadol. Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod yr effaith y gall gofal sylfaenol ei chael a chymryd camau bwriadol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Mae’r gweminar hwn yn archwilio’r Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru. Ymunwch â ni i ddilyn llwybr tuag at degwch. Gobeithiwn ddarganfod strategaethau addawol ar lefelau polisi, a chymryd rhan mewn deialog gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi ac arweinwyr cymunedol. Rydym am ddatblygu atebion y gellir eu gweithredu a dod o hyd i ffyrdd o ymgorffori argymhellion y rhaglen hon mewn gofal sylfaenol ar gyfer ataliaeth a chynaliadwyedd.

Canlyniadau Dysgu:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru.
  • Arddangos strategaethau a mentrau addawol a ddefnyddir yng Nghymru a’u canlyniadau sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefelau polisi yng Nghymru.
  • Meithrin deialog ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi ac academyddion i ddatblygu strategaethau ar gyfer hybu tegwch iechyd.
  • Grymuso cyfranogwyr i ystyried ffyrdd o bwysleisio’r angen i ymgorffori’r gwaith hwn mewn gofal sylfaenol ar gyfer atal a chynaliadwyedd.

Dyddiad + Amser

10 Hydref 2024

10:30 YB - 12:00 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig