11 Medi
Online

Cymru Iachach ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol: canfyddiadau ac argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

11 Medi

Dyddiad + Amser

11 Medi 2025

2:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Yng Nghymru, mae gordewdra a heriau iechyd meddwl yn cynyddu’n sydyn, ac mae ein poblogaeth eisoes yn hŷn nag mewn rhannau eraill o’r DU (21.6% dros 65 oed, o’i gymharu â 18.6% ar gyfartaledd y DU).

Mae’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol wedi’i ddylunio i gefnogi gwleidyddion ac arweinwyr cyrff cyhoeddus i wneud bywyd yn well i bobl nawr ac yn y dyfodol. Mae’n hanfodol bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymwybodol o’r canfyddiadau a’r argymhellion sydd ynddo ac yn eu deall, er mwyn i ni adeiladu dyfodol gwell lle gall ein plant a’n hwyrion fyw bywydau hapus ac iach.

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon lle bydd Marie Brousseau-Navarro (Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol) yn cyflwyno’r canfyddiadau a’r argymhellion o Bennod Iechyd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025. Bydd yn trafod enbydrwydd cyflwr presennol iechyd yng Nghymru a rhai o’r atebion ac arfer da y mae angen i ni eu hystyried mewn sefydliadau sector cyhoeddus.

Dyddiad + Amser

11 Medi 2025

2:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig