28 Tach
Online

Cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

28 Tach

Dyddiad + Amser

28 Tachwedd 2024

3:30 YP - 4:30 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol yn faes pwysig ac mae llawer o gyfleoedd i gefnogi menywod a theuluoedd yn y cyfnod hwn o fywyd. Ymunwch â ni am ddigwyddiad craff sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant ôl-enedigol lle byddwn yn archwilio pwysigrwydd cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol, beth sydd angen ei wneud i ddarparu’r gefnogaeth hon, a beth all y camau nesaf ar gyfer gwneud hyn ei olygu.

Byddwn yn archwilio’r angen i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth, yn trafod persbectif gwyddor ymddygiad ac yn ystyried y camau nesaf ar gyfer datblygu polisi ac ymarfer i gefnogi iechyd a llesiant ôl-enedigol.

Canlyniadau Dysgu:

  • Deall yr angen am gymorth ar gyfer iechyd a llesiant ôl-enedigol gan gynnwys rheoli pwysau ac atal gordewdra.
  • Deall yr angen i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ynghylch cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol.
  • Cydnabod bod angen camau gweithredu o safbwynt gwyddor ymddygiad i gefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol.
  • Ystyried barn pobl yng Nghymru ynghylch cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol.
  • Ystyried y camau nesaf ar gyfer datblygu polisi ac arfer yng Nghymru i gefnogi iechyd a llesiant ôl-enedigol, gan gynnwys rheoli pwysau ac atal gordewdra.

 

Cliciwch yma am yr agenda

Dyddiad + Amser

28 Tachwedd 2024

3:30 YP - 4:30 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig