DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Canfod ac atal masnach anghyfreithlon mewn cyffuriau, alcohol a thybaco yng Nghymru

Dydd Iau 29 Mehefin 2023
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau a derbyniadau i ysbytai sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau ac alcohol anghyfreithlon, ochr yn ochr â’r risg barhaus sy’n deillio o dybaco, yn argyfwng iechyd cyhoeddus sy’n gofyn am gydweithredu a chydgysylltu ar draws sectorau ac asiantaethau. Mae cyffuriau, alcohol a thybaco a gaiff eu masnachu’n anghyfreithlon yn cael effaith niweidiol ar iechyd a lles y boblogaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r risg a achosir eisoes gan eu ffurfiau cyfreithlon, ac mae canfod ac atal masnach anghyfreithlon yn y nwyddau hyn yn hanfodol.

Mae Brexit wedi newid pa gronfeydd data troseddol yr Undeb Ewropeaidd (UE) y caiff y Deyrnas Unedig (DU) fynediad iddynt, ac wedi creu cyfleoedd ar gyfer newid rheolaethau rheoli ffiniau a mewnforio a pherthnasoedd masnachu. Mae gan hyn y potensial i effeithio ar y cyflenwad o gyffuriau, alcohol, a thybaco anghyfreithlon yng Nghymru, yn ogystal â’r ffyrdd y gall y DU weithio gyda’r UE ac eraill i ganfod ac atal masnach anghyfreithlon yn y nwyddau hyn.

Roedd y gweminar hwn yn crynhoi’r systemau rhyngwladol y bu’r DU a Chymru yn cymryd rhan ynddynt i fynd i’r afael ag alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon cyn Brexit. Archwiliodd y panel sut mae’r rhain wedi newid ar ôl Brexit a’r effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar iechyd a lles yng Nghymru.

Gobeithiwn y bydd y weminar hon yn adnodd gwerthfawr i’r sawl sy’n ymwneud â mynd i’r afael â masnach anghyfreithlon (e.e. cynghorau tref, cynghorau dinas a chynghorau sir, cyrff gorfodi’r gyfraith, swyddogion data deallusrwydd a swyddogion tollau), ac o ddiddordeb ehangach i weithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a swyddogion sy’n gweithio ar bolisi iechyd y cyhoedd, fel mynegiant o’r ffyrdd niferus y mae gan Brexit y potensial i ddylanwadu ar iechyd a lles pobl yng Nghymru.

Siaradwyr:
Cadeirydd: Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Leah Silva, Uwch Swyddog Datblygu Polisi a Thystiolaeth Ryngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Chris Emmerson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Paul Gilmour, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddau Economaidd, Prifysgol Portsmouth

Adborth am ddigwyddiadau

Mae gennym ddiddordeb bob amser i glywed adborth ar ein digwyddiadau ac awgrymiadau ar rai yn y dyfodol. Os hoffech roi adborth inni ar y digwyddiad hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Rhowch adborth

Tagiau

Digwyddiadau eraill yn y gorffennol

Canfod ac atal masnach anghyfreithlon mewn cyffuriau, alcohol a thybaco yng Nghymru

Gwerthuso digwyddiadau Enlarge


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig