

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Ydych chi wedi meddwl tybed beth mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn ei ddweud am y rôl y gall bwyd ysgol ei chwarae wrth lunio iechyd a lles plentyn? A sut, y gallwn ni yng Nghymru, wneud y mwyaf o gyfleoedd yn amgylchedd bwyd ysgolion er budd iechyd a lles y boblogaeth nawr ac yn y dyfodol?
Mae’r weminar amserol hon yn cyd-daro ag ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, sef ‘Bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru’.
Bydd y weminar yn rhoi trosolwg o’r effaith bosibl y mae amgylchedd bwyd ysgolion yn ei gael ar iechyd a lles plant, oedolion a chymdeithas. Bydd hefyd yn rhannu safbwyntiau ar rai o’r heriau a’r cyfleoedd wrth greu amgylchedd bwyd iachach mewn ysgolion.
Bydd yn cwmpasu:
- Safbwynt maeth iechyd y cyhoedd ar y safonau bwyd a maeth wedi’u diweddaru arfaethedig
- Sut i lunio dulliau ysgol gyfan tuag at fwyd a maeth
- Pwysigrwydd cynnwys plant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sydd â rôl i’w chwarae mewn amgylcheddau bwyd ysgolion
- Ffyrdd o wella gweithredu a monitro i gefnogi amgylcheddau bwyd iachach mewn ysgolion.
Canlyniadau Dysgu:
- Rhoi trosolwg o effaith bosibl amgylchedd bwyd yr ysgol ar iechyd a lles plant yn y tymor byr, canolig a hir.
- Gwella gwybodaeth am y cyfle y mae’r ymgynghoriad ‘Bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru’ yn ei gynnig, yn cynnwys adlewyrchu’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ar faeth ac iechyd.
- Rhannu dealltwriaeth o’r heriau a’r datrysiadau posibl sy’n gysylltiedig â chreu amgylcheddau bwyd iach mewn ysgolion.
- Clywed enghreifftiau ymarferol o rai o’r gwahanol ddulliau sy’n cael eu datblygu yng Nghymru i wella iechyd a lles drwy amgylchedd bwyd ysgolion.
- Gwybod sut i gael gafael ar wybodaeth bellach.
Dyddiad + Amser
25 Medi 2025
1:30 YP - 2:45 YP
Math
Gweminar
Cyfrannu at ein digwyddiadau
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.