£110m i wella trafnidiaeth leol
Mae £110 miliwn wedi’i gyhoeddi i awdurdodau lleol wella trafnidiaeth leol ledled Cymru.
Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl i fynd o gwmpas yn haws ac yn helpu i wneud gwell trafnidiaeth yn hygyrch i bawb.
Bydd y Cynllun yn ariannu prosiectau sy’n:
- gwella cyflwr ffyrdd lleol a mynd i’r afael ag aflonyddwch a achosir gan dywydd garw;
- treialu gwasanaethau bysiau newydd ac uwchraddio amseroedd teithio bysiau a chyfleusterau aros;
- creu strydoedd cynhwysol sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded, olwynio a beicio;
- gosod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd;
- creu llwybrau mwy diogel i blant deithio i ysgolion; a
- gwella diogelwch ar y ffyrdd
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.